NOSON LAWEN
Mae Noson Lawen yn falch o ddychwelyd i'r Gorllewin i Ganolfan Hamdden Crymych ar gyfer tair rhaglen arbennig iawn ar Hydref y 27ain, 28ain a 29ain.
Ar nos Lun y 27ain o Hydref, rhowch eich hetiau cowboi ymlaen cowbois Crymych! Noson gyda naws canu gwlad yng nghwmni Bronwen Lewis ac Al Lewis gyda Lowri Evans a Lee Mason, Taff Rapids, Rhys ap William, Iwan Huws, Megan Lee, Ysgol Bro Preseli a Dawnswyr Dawnsffit.
Dewch i ddathlu label Fflach a Fflach Cymunedol ar yr 28ain o Hydref gyda rai o artistiad sydd wedi ymddangos ar y label. Daf Wyn yn cyflwyno Einir Dafydd, Robyn Lyn, Gwenda a Geinor, Delwyn Siôn, Catrin Brooks, Mattoidz, Rhiannon O'Connor, Chwaer a Rhocesi.
Ar nos Fercher y 29ain o Hydref bydd brenhinesau canu gwerin Linda Griffiths a Sorela yn cyflwyno Lleuwen Steffan, Georgia Ruth, Alaw, Irfan Rais, Cadog ac Ysgol Gerdd Ceredigion.